Rhybudd am law trwm a llifogydd ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl glaw trwm ar draws Cymru dros y deuddydd nesaf, gyda rhybudd tywydd mewn grym.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" ar gyfer y de, y canolbarth a'r gogledd tan ddydd Iau.
Mae disgwyl tua 4cm-6cm (1.5-2.3 modfedd) o law yn yr ucheldiroedd, a hyd at 10cm (3.9 modfedd) yn Eryri.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.
Oherwydd gwyntoedd cryfion fore Mercher roedd cyfyngiadau cyflymder ar hen Bont Hafren a Phont Britannia.
Roedd problemau traffig ar nifer o ffyrdd yn ardal y Trallwng ym Mhowys, ac yn Llandrinio ger y ffin gyda Sir Amwythig, mae'r B4393 ar gau oherwydd llifogydd a difrod i'r bont.
Mae'r rhubuddion diweddara' i'w cael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.