Apêl am wybodaeth wedi i yrrwr farw

  • Cyhoeddwyd
rtc

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad ar yr A478 yn Sir Benfro fore dydd Mawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 10:30 yn dilyn adroddiadau fod cerbyd Land Rover Discovery arian wedi gadael y ffordd yn agos i bentref Clunderwen.

Cafodd gyrrwr y cerbyd ei gludo i'r ysbyty ond bu farw'n ddiweddarach. Doedd yr un cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.

Mae teulu'r gyrrwr wedi cael eu hysbysu.

Cafodd y ffordd ei chau a fe gafodd y traffig ei ddargyfeirio cyn i'r ffordd ailagor am 13:45.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un welodd y ddamwain i gysylltu ag uned plismona ffyrdd Sir Benfro ar 101.