Cyngor Cynwyd i gyhoeddi agenda ddwyieithog

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Cynwyd

Bydd Cyngor Cymdeithas Cynwyd ger Corwen yn cyhoeddi agenda yn ddwyieithog yn y dyfodol.

Dyna gafodd ei benderfynu mewn cyfarfod o'r cyngor nos Fawrth.

Fe gafodd y cyngor ei feirniadu'n llym mewn adroddiad gan yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Nick Bennett am gyhoeddi pethau'n uniaith Gymraeg.

Aeth yr Ombwdsmon ati i ymchwilio yn dilyn cwyn gan Karen Roden, sydd ddim yn deall Cymraeg. Daeth i'r casgliad na allen nhw fod yn cynrychioli y gymuned yn iawn oherwydd nad oedd pethau'n ddwyieithog.

Yn ôl Ms Roden roedd hi'n hapus gyda'r penderfyniad gan ddweud "mae hwn yn benderfyniad synnwyr cyffredin pan mae yna gymuned fel ein cymuned ni."

Dywedodd Gwen Wyn, Cadeirydd Cyngor Cymdeithas Cynwyd wrth raglen y Post Cyntaf Radio Cymru: "Rydym wedi penderfynu gwrando ar yr Ombwdsmon - mae'n rhaid i ni wneud hynny a gweithio gyda'n gilydd.... a bod hyn yn ddiwedd ar y stori. "

Disgrifiad,

Bu'r cyngor yn cwrdd nos Fawrth

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Karen Roden ei bod yn falch â phenderfyniad y cyngor.