Maer etholedig i Gaerdydd?
- Cyhoeddwyd
Darran Hill sy'n egluro'i resymau dros gael maer etholedig i Gaerdydd
Bydd ymgyrch i gael maer etholedig i Gaerdydd yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd.
Darran Hill, ymgynghorydd gwleidyddol a threfnydd yr ymgyrchoedd o blaid datganoli yn 1997 a 2011, fydd yn rhedeg yr ymgyrch newydd.
Byddai system o ethol maer yn rhoi "momentwm ychwanegol" i'r brifddinas, yn ôl Mr Hill.
Ond yn ôl AC Gogledd Caerdydd Julie Morgan "does dim prawf fod manteision" i newid y drefn.
Nôl yn 2004, fe wrthododd etholwyr Ceredigion y syniad o faer etholedig mewn refferendwm.
Felly does dim meiri etholedig yng Nghymru o gwbl, er fod 'na 18 yn Lloegr.
'Lefel wleidyddol uwch'
Mae Mr Hill yn gobeithio casglu llofnodion 10% o etholwyr Caerdydd - bron i 25,000 o bobl - i orfodi refferendwm.
Dyddiad cynharaf posib refferendwm fyddai Hydref 2016.
Pe bae'n llwyddiannus, byddai maer - fyddai'n arwain cyngor mwyaf Cymru, gyda chyllideb o £600m - yn gallu cael ei ethol yn ystod haf 2017.
Yn ôl Mr Hill, bydd gan ei ymgyrch gefnogaeth drawsbleidiol a chronfa o rhwng £20,000 a £30,000.
"Y syniad yw i roi cyfle o'r diwedd i bobl Caerdydd ddatgan os ydyn nhw eisiau maer etholedig i gynrychioli'r ddinas gyfan," meddai.
"Byddai'n ein codi i lefel wleidyddol uwch fyddai'n addas i'r 21ain ganrif."
Ychwanegodd fod gan ddinasoedd eraill fel Bryste faer etholedig, a bod hyn yn rhoi pwysau ar Gaerdydd i ddilyn eu hesiampl.
"Mae dinas o faint Caerdydd angen y momentwm ychwanegol," meddai.
Ond dywedodd Mrs Morgan: "Mae'n ffordd anodd, cymhleth a drud o gael maer, a does dim prawf fod manteision."
Dywedodd hefyd y byddai'r newidiadau'n mynd yn groes i'r graen mewn cyfnod pan fo'r llywodraeth yn cwtogi'r nifer o awdurodau lleol.
"Rwy'n credu fod rhaid i ba bynnag blaid sydd mewn grym gymryd cyfrifoldeb ar y cyd," meddai.
"Ac rwy'n credu fod maer etholedig yn rhoi'r grym i gyd i un person."