Cyn-heddwas yn gwadu cael rhyw â merch dan oed
- Cyhoeddwyd

Mae cyn heddwas wedi cydnabod fod perthynas gafodd e â merch yn ei harddegau yn "anaddas", ond mae'n gwadu ei bod hi dan oed ar y pryd.
Mae Colin Hart, 61 oed o Nelson yn sir Caerffili yn wynebu saith cyhuddiad o ymosodiad anweddus ac un o dreisio merch o dan 16 oed.
Mae'r honiadau yn deillio o gyfnod rhwng 1988 a 1990, ond mae'n gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, hawliodd Mr Hart iddo ddechrau perthynas rywiol gyda merch ym 1992, pan oedd hi "o leiaf 17 oed".
Cyfarfod mewn tafarn
Clywodd y llys fod y ddau wedi cyfarfod mewn tafarn yr oedd e'n mynd iddi yn gyson, ac ar ôl siarad yn ysgafn â'i gilydd, fe aeth y sgwrs yn fwy personol.
Dwedodd Mr Hart ei fod e'n meddwl ei bod hi wedi cydsynio i fod yn rhan o weithred rhyw.
Gofynnodd yr amddiffynydd, Jeffrey Jones iddo: "A ddangosodd hi ar unrhyw adeg nad oedd hi'n hapus â'r hyn yr oeddech chi'n ei wneud?"
"Na", meddai Mr Hart.
Perthynas 'anaddas'
Tra'n cael ei groesholi, cyfaddefodd Mr Hart fod eu perthynas wedi bod yn un "anaddas" am ei fod wedi dyweddïo ar y pryd, ond iddo gallio yn fuan wedyn.
Dywedodd Martyn Kelly ar ran yr erlyniad: "Yr hyn ry' chi wedi ei wneud ydy symud y dyddiadau ymlaen."
"Na, Syr," atebodd Mr Hart, "mae arna i ofn mai hi sy'n eu symud nhw yn ôl".
Mae'r achos yn parhau.