BBC Cymru Fyw

Agor cwest i farwolaethau ffrwydrad gwaith dur Celsa

Published
image captionBu farw Mark Sim a Peter O'Brien yn y ffrwydrad fis diwethaf
Mae cwest i farwolaethau dau ddyn mewn ffrwydrad mewn gwaith dur yng Nghaerdydd wedi ei agor a'i ohirio.
Fe gafodd Peter O'Brien, 51 oed o Lanisien, Caerdydd, a Mark Sim, 41 oed o Gil-y-coed, Sir Fynwy, eu lladd yn y digwyddiad yng ngwaith dur Celsa ar 18 Tachwedd.
Clywodd y cwest bod Mr O'Brien wedi bod yn gweithio fel peiriannydd trydanol, tra bo Mr Sim yn gweithio fel peiriannydd mecanyddol.
Bydd adolygiad cyn-gwest yn cael ei gynnal ym mis Mawrth 2016 wedi ymchwiliad.

Straeon perthnasol

  • Ffrwydrad Celsa: Cyhoeddi enwau dau fu farw