Ffoaduriaid cyntaf i gyrraedd Cymru cyn y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
ffoaduriaid

Bydd y ffoaduriaid cyntaf o Syria i gyrraedd Cymru y mis yma yn cael eu cartrefu yn Nhorfaen, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili, yn ôl y cynghorau dan sylw.

Mae disgwyl i 50 o bobl gyrraedd o wersylloedd ffoaduriaid cyn y Nadolig - y cyntaf o tua 1,000 fydd yn dod i Gymru dros y pum mlynedd nesaf.

Llywodraeth y DU fydd yn talu'r gost o gartrefu a chefnogi'r ffoaduriaid.

Mewn sawl ardal fe fyddan nhw'n cael eu cartrefu mewn llety preifat ar rent yn hytrach nag eiddo'r cynghorau.

Fel rheol mae mwyafrif yr ymgeiswyr lloches sy'n dod i Gymru yn ymgartrefu o fewn lleiafrifoedd mewn dinasoedd neu drefi mawr - Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.

Ond mae holl awdurdodau lleol Cymru wedi cytuno i fod yn rhan o gynllun i gartrefu ffoaduriaid wedi i David Cameron ddweud y byddai'r DU yn derbyn 20,000 dros y pum mlynedd nesaf.

Hawl i weithio

Dywedodd Cyngor Torfaen y byddan nhw'n croesawu dau deulu gyda nifer o blant ifanc cyn y Nadolig, gyda phedwar teulu arall i ddilyn yn y flwyddyn newydd.

Mae Ceredigion eisoes wedi dweud y byddan nhw'n derbyn 10-12 o ffoaduriaid cyn yr Ŵyl.

Yng Nghaerffili bydd dau deulu'n cyrraedd yn fuan gyda dau arall ym mis Ionawr a phosibilrwydd o fwy wedi hynny, ac fe fydd pum teulu'n symud i ardal Castell-nedd Port Talbot a phump arall i ddilyn.

Gan nad yw'r teuluoedd yn ymgeiswyr lloches nac yn fudwyr economaidd, fe fydd ganddyn nhw'r hawl i fyw a gweithio yn y DU.

Ar draws Cymru mae nifer o gynghorau wedi cyhoeddi manylion am faint o ffoaduriaid y byddan nhw'n eu derbyn tra bod eraill yn disgwyl i gael mwy o fanylion gan lywodraeth San Steffan.

Fis diwethaf fe roddodd Gweinidog Cymunedau Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, addewid y bydd archwiliad i gefndir pob ffoadur cyn iddyn nhw gyrraedd er mwyn sicrhau nad oes risg diogelwch.