Buddsoddi £12m yn yr economi gwyrdd

  • Cyhoeddwyd
economi gwyrdd

Bydd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn cyhoeddi buddsoddiad o £12 miliwn ar gyfer economi gwyrdd Cymru ddydd Iau.

Fe fydd yr arian yn mynd i brosiect BEACON+ gyda chefnogaeth o £8 miliwn o arian Ewropeaidd - prosiect fydd yn galluogi gwyddonwyr i ddatblygu deunyddiau newydd adnewyddadwy.

Gwaith yr arbenigwyr o brifysgol Aberystwyth, Bangor ac Abertawe fydd bioburo - sef trawsnewid planhigion yn gemegau a chynnyrch masnachol fel tanwydd, tecstilau a chynnyrch cosmetig a fferyllol.

Nod y prosiect yw creu dros 100 cynnyrch neu brosesau newydd carbon isel dros y pedair blynedd nesaf.

Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru: "Mae rhaglenni'r Undeb Ewropeaidd yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi ymchwil ac arloesi, a helpu i greu datblygiadau gwyddonol yma yng Nghymru.

"Dyma brosiect ardderchog a fydd yn datblygu'r gwaith ymchwil o'r radd flaenaf sydd eisoes ar waith ym mhrifysgolion Cymru. Bydd hefyd yn creu buddion hirdymor, yn economaidd ac yn amgylcheddol."