Merch Ray Gravell yn annog pobol i ofalu am eu hiechyd
- Cyhoeddwyd

Mae merch un o gyn sêr rygbi Cymru wedi annog cleifion sy'n dioddef o ddiabetes i edrych ar ôl eu hiechyd.
Roedd y diweddar Ray Gravell wedi byw gyda'r cyflwr am rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth yn 2007.
Mae cynnydd enfawr mewn achosion o diabetes yng Nghymru sy'n golygu bod 10% o gyllideb y gwasanaeth iechyd yn cael ei wario ar ei drin, yn ôl elusen Diabetes UK.
Mae Manon Gravell yn dweud wrth raglen Faterion Cyfoes Radio Cymru, Manylu, bod angen i bawb sy'n dioddef o'r cyflwr ofalu am eu hiechyd er mwyn ceisio ymestyn eu bywydau.
Cefndir
Plant a phobl ifanc yn bennaf sy'n cael eu taro gan achosion Math 1 o diabetes a dydy eu cyrff ddim yn gallu cynhyrchu inswlin i reoli lefel y siwgr yn y gwaed.
Mae Math 2 yn cyfrif am tua 90% o'r achosion ym Mhrydain, gyda 177,000 o'r rheiny yng Nghymru.
Yr hyn sy'n achosi pryder ydi'r cymhlethdodau difrifol sy'n gallu dod yn ei sgil. Bydd rhai cleifion yn colli eu golwg, yn dioddef clefyd y galon neu strôc, ac mae eu harennau'n gallu methu.
Mae'r clefyd hefyd yn effeithio ar y coesau a'r traed - gan orfodi rhai i gael llawdriniaeth i'w torri i ffwrdd.
'Difrifol'
Dyna ddigwyddodd i Ray Gravell, a fu farw yn 56 oed. Ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, bu'n trafod y cyflwr ar raglen deledu.
"Pan wedodd y llawfeddyg bod yn rhaid i mi fynd lawr i gael llawdriniaeth yn syth, wnes i ddim sylweddoli gwir effaith y geiriau," meddai.
"Fe droiais i at Mari (ei wraig), roedd gwythïen fach wedi torri yn ei llygaid hi, ac aeth ei llygaid hi'n gochddu yn y man a'r lle a phryd hynny wnes i sylweddoli, bod yr hyn a ddywedwyd wrtha i, bod e'n ddifrifol," meddai.
Bu farw Ray Gravell ar ôl cael trawiad ar y galon ychydig fisoedd ar ôl y llawdriniaeth. Mae ei ferch, Manon, yn dweud wna fyddan nhw byth yn gwybod i sicrwydd ai hynny achosodd iddo gael trawiad, ond eu bod yn amau bod cysylltiad.
Cynnydd
Cymaint yw'r cynnydd yn nifer y bobol sy'n dioddef o diabetes Math 2, fel bod arbenigwyr yn ei ystyried yn epidemig.
Yn ôl Diabetes UK mae 'na risg uchel y bydd hanner miliwn o bobol eraill yng Nghymru yn ei ddatblygu.
Mae hynny i raddau oherwydd newidiadau yn y ffordd yr ydym ni'n byw, a'r ffaith ein bod yn bwyta cymaint o fwydydd wedi eu prosesu, meddai meddygon ac arbenigwyr.
"Mae bwydydd sy'n cynnwys lot, lot o siwgr... hefyd yn cynnwys lot o fraster, a gyda'i gilydd mae'r ddau ffactor yna wedi gwneud lot o wahaniaeth i fywydau pobol, a pha mor ifanc mae pobol yn datblygu clefyd y siwgr," meddai'r Dr Lowri Mainwaring, darlithydd mewn gwyddoniaeth bio-feddygol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
'Treth ar siwgr'
Mae'r clefyd yn broblem fawr i'r gwasanaeth iechyd, gyda thrin y cymhlethdodau yn gostus tu hwnt. Yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'i wneud ydi ein hannog i edrych ar ôl ein hunain - er mwyn osgoi ei ddatblygu.
Ond mae meddyg teulu o Sir Fôn am weld penderfyniadau gwleidyddol anodd yn cael eu cymryd i helpu i ddatrys y broblem.
"Dwi hefyd yn gweld bai ar y cwmnïau mawr bwyd," meddai'r Dr Meleri Evans. "Mae lefel siwgr mewn pob math o fwyd wedi cynyddu yn ddifrifol dros y blynyddoedd, ac weithiau dydi pobol ddim yn ymwybodol o hynny."
Mi fyddai hi yn hoffi gweld y llywodraeth yn cyflwyno treth ar siwgr. "Dydi'r penderfyniadau yna byth yn hawdd, ond pwy sydd i ddweud bod treth ar siwgr yn fwy dadleuol na llai dadleuol na'r dreth ar alcohol," meddai.