Posib codi'r dreth incwm ar gyfer 'prosiectau penodol'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones ar The Wales Report

Mae lle i ystyried codi'r dreth incwm yng Nghymru ar gyfer prosiectau penodol, yn ôl y Prif Weinidog.

Daw sylwadau Carwyn Jones wedi i'r Canghellor, George Osborne, ddweud y byddai'n bosib datganoli rhai agweddau o dreth incwm heb refferendwm.

Yn siarad ar The Wales Report, dywedodd na fyddai Llafur yn codi'r dreth os ydyn nhw'n ennill etholiad nesa'r cynulliad.

Ond ychwanegodd fod posibilrwydd gwneud hynny yn y dyfool.

"Yn y dyfodol, bydd rhaid i'r pleidiau ystyried a dweud y gwnawn ni godi treth incwm ond ar gyfer rhywbeth penodol," meddai Mr Jones.

'Anhygoel'

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn feirniadol o'r syniad.

Ar ei gyfrif Twitter, dywedodd ei bod hi'n "rhyfeddol" fod y prif weinidog "wedi torri cyllid y GIG yng Nghymru" a'i fod nawr eisiau "codi trethi i ariannu'i 'brosiectau' fel Maes Awyr Caerdydd".

Ychwanegodd ei fod o'n credu y byddai'n well gan bobl Cymru weld eu harian "yn eu pocedi, nid yng nghoffrau Llywodraeth Cymru".

Disgrifiad o’r llun,
Mae 80% o gyllid Llywodraeth Cymru'n dod gan y Trysorlys, meddai Carwyn Jones

Sefyllfa 'fregus'

Yn dilyn sylwadau Mr Osborne, gall Llywodraeth Cymru reoli cymaint â £3bn o drethi'r flwyddyn erbyn 2020.

Ond mae Mr Jones yn ansicr am gynlluniau'r canghellor oherwydd sefyllfa ariannol "fregus" yr awdurdod datganoledig.

Dywedodd fod 80% o gyllid Llywodraeth Cymru'n dod gan y Trysorlys a bod Cymru'n cael llai o arian y pen na'r Alban a Gogledd Iwerddon.

"Dydw i ddim eisiau gweld hyn yn dod yn esgus i'r Trysorlys ddweud 'dydyn ni ddim am edrych ar y ffaith eich bod chi ddim yn cael eich siâr o'r arian achos eich bod chi'n gallu casglu'ch arian eich drwy dreth incwm'," meddai.

Byddai hynny'n "cloi" Cymru mewn system ble nad ydi hi'n cael yr arian mae'n ei haeddu, meddai.

Mae`r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo toriad o 5c yn y raddfa dreth 40%, a thoriad o 1c yn y raddfa sylfaenol 20%, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol am dorri'r raddfa sylfaenol o 1c i helpu "gweithwyr cyffredin".

Mae Plaid Cymru'n galw am ddatganoli mwy o bwerau dros dreth incwm.