Llofruddiaeth: Carcharu cariad cenfigennus am oes
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Merthyr, cafodd cariad cenfigennus o Bontypridd garchar am oes am lofruddio dyn yr oedd yn ei amau o gysgu gyda'i bartner.
Roedd David Dunn, 32, wedi curo Darran Almond, 42 i farwolaeth ac yna wedi anfon neges destun i'w gariad yn dweud: "Dwi'n meddwl fod Darren wedi marw LOL."
Clywodd y llys fod Dunn yn gandryll fod Mr Almond wedi aros dros nos yn nhŷ ei gariad.
Gwadodd ei gariad, Georgina Dowey, fod unrhyw beth wedi digwydd rhwng y ddau.
Ond yna derbyniodd nifer o negeseuon testun gan Dunn.
Dywedodd y neges gyntaf: "Dwi'n mynd i lorio Darran yn anymwybodol LOL."
Yfed yn drwm
Yn ôl yr erlyniad, roedd yna gyfres o negeseuon yn disgrifio oriau olaf Darran.
Anfonodd luniau gyda neges yn dweud ei fod yn credu ei fod wedi torri gên Darren.
Clywodd y llys fod Mr Almond a Dunn yn gymdogion mewn llety gwely a brecwast yn nhafarn y Morning Star, Pontypridd.
Roedd Dunn a chyfaill iddo, Stephen Richardson, 43, wedi bod yn yfed yn drwm cyn y digwyddiad.
Cafwyd Dunn yn euog o lofruddiaeth a chafodd ei garcharu am leiafswm o 15 mlynedd.
Penderfynodd y llys fod Richardson yn euog o ddynladdiad a chafodd ei garcharu am 14 o flynyddoedd.