GIG: Cynlluniau ar gyfer y gaeaf yn eu lle
- Published
Mae cynlluniau Gwasanaeth Iechyd Cymru ar gyfer y gaeaf yn eu lle, meddai'r prif weithredwr.
Dywedodd Dr Andrew Goodall y byddai mwy o gefnogaeth i gleifion fynd adref ar ôl triniaeth ac y byddai rhagor o staff yn eu lle.
Hefyd dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai llai o bobl yn mynd i unedau brys dros y gaeaf yn ddiangen.
Roedd cyrff fel y byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG, y gwasanaeth ambiwlans a chynghorau wedi cydweithio er mwyn paratoi am y cyfnod, meddai.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, doedd dim angen i rhwng 70% a 80% o gleifion aeth i unedau brys yn 2014-15 aros yn yr ysbyty am driniaeth bellach.
Byddai wedi bod yn bosib i'r rheiny gael cyngor fwy priodol a chyflymach mewn lleoliad gofal iechyd arall.
'Pwysau ychwanegol'
Dywedodd Dr Goodall bod "pwysau ychwanegol" ar y Gwasanaeth Iechyd yn y gaeaf.
"Tra bod staff y GIG yn chwarae eu rhan, fe all pob un ohonon ni helpu gyda phwysau'r gaeaf gan ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer salwch neu anaf," meddai.
"Dyw'r rhan fwyaf o gyflyrau ddim angen gofal brys."
Dywedodd bod unedau brys yn trin miliwn o bobl y flwyddyn ac y gallai pobl ddelio gyda mân anafiadau eu hunain.
"Mae'n bosib delio gyda llawer o afiechydon yn eich cartref gyda moddion dros y cownter," ychwanegodd.