Trydaneiddio'r lein i Abertawe 'erbyn 2020 neu 2021'
- Cyhoeddwyd

Mae'r gweinidog trafnidiaeth yn gobeithio bod y gwaith o drydaneiddio rheilffordd y Great Western i Abertawe yn gorffen o fewn chwe blynedd.
Dywedodd Patrick McLoughlin ei fod yn dymuno gweld y prosiect ar ben erbyn 2020 neu 2021.
Roedd Network Rail wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos diwethaf.
Yn ôl y cwmni, bydd y rheilffordd rhwng Llundain a Chaerdydd wedi ei thrydaneiddio erbyn 2019 ond roedd rhybudd na fyddai uwchraddio'r lein i Abertawe wedi ei orffen tan rhwng 2019 a 2024.
Mae cost trydaneiddio rhwng Llundain a Chaerdydd wedi codi o £1.6bn yn 2014 i £2.8bn yn 2015.
'Heb fuddsoddi digon'
Yng ngorsaf drên Caerdydd Canolog dywedodd Mr McLoughlin: "Rwy'n gobeithio erbyn 2020 neu 2021 y bydd (y lein) yr holl ffordd i Abertawe.
"Rwy'n deall y rhwystredigaethau o beidio trydaneiddio'r lein ugain mlynedd yn ôl.
"Y ffaith syml amdani yw ein bod wedi cael llywodraeth o bob perswâd sydd heb fuddsoddi digon yn ein rheilffyrdd ac rydym yn ceisio gwneud yn iawn am hynny.
"Fe fydd y lein wedi ei thrydaneiddio i Gaerdydd erbyn 2019 ac rwy eisiau ein gweld yn parhau i Abertawe. Mae hynny'n bwysig iawn ac mae'n iawn ein bod yn gwneud hynny."
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i Network Rail ddweud rhywbeth am ei gynlluniau ar gyfer Abertawe yn fuan.