Cymro yn ennill cystadleuaeth para hwylio

  • Cyhoeddwyd
hwylio

Mae Cymro, sy'n rhan o dîm Prydain Fawr, wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Sonar, Para Hwylio'r byd yn Melbourne.

Fe enillodd y Cymro, Steve Thomas, ynghyd ag aelodau eraill o'r tîm John Robertson a Hannah Stodel y fedal ar ddiwrnod ola'r cystadlu dydd Iau.

Mae'r tîm wedi gorfod aros cryn amser am eu hatric ym Mhencampwriaeth y byd, wedi iddynt gipio'r aur yn 2005 a 2006 hefyd.

Ond ar ddiwrnod olaf y regata chwe diwrnod, fe hwyliodd y tîm i fuddugoliaeth yn y ras olaf ym Mhort Bae Phillip.

Yn gynharach yn y bencampwriaeth, fe sicrhaodd y ddeuawd SKUD, Alexandra Rickham a Niki Birrell, ddwy fedal aur arall i Brydain, ddydd Mercher.

Wedi'r fuddugoliaeth, dywedodd y llyw, John Robertson: "Mae'n deimlad anhygoel.

"Rydym wedi colli allan nifer o weithiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi bod yn waith caled eleni i geisio gwneud cynnydd yn ein perfformiad. Ein nod oedd ennill, felly mae hyn yn hollol wych."