Llifogydd posibl: Rhybudd i deithwyr trenau
- Cyhoeddwyd

Mae defnyddwyr rheilffordd wedi cael eu rhybuddio y gallai ambell i lwybr gau ar fyr rybudd dros y penwythnos oherwydd llifogydd posibl.
Mae rhagolygon yn rhybuddio y gall glaw trwm a gwyntoedd cryfion daro ardaloedd o Gymru rhwng dydd Gwener a dydd Llun, ac fe all hynny effeithio ar rwydwaith Trenau Arriva.
Y llwybrau sydd dan sylw yw'r rhai o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog, ac o'r Amwythig i Fachynlleth.
Fe ddaw hyn wrth i ran o'r A490 ym Mhowys gael ei chau oherwydd llifogydd.
Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan Sarn y Bryn Caled, Y Trallwng A458/A483, a'r B4388 yn Kingswood.
Bydd Network Rail hefyd yn gosod cyfyngiadau cyflymder ar drenau sy'n gweithredu dros y penwythnos rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru y byddai bysiau yn cymryd lle'r trenau petai rheilffyrdd yn cau.
Ar hyn o bryd mae dau rybudd llifogydd ar gyfer Cymru, a naw o rybuddion llifogydd melyn - i bobl fod yn wyliadwrus hyd at 21:00 ddydd Iau.