Pensiynwr ar goll ar Ynys Wyth: Rheithfarn agored
- Cyhoeddwyd

Mae rheithfarn agored wedi'i chofnodi i farwolaeth pensiynwr o Gymru aeth ar goll ar Ynys Wyth.
Roedd Michael Davies, 71 oed o Flaenau Gwent, ar goll am bum wythnos cyn i'w gorff gael ei ddarganfod ym mis Gorffennaf.
Roedd Mr Davies a'i wraig, Pat, ar wyliau ac yn aros yng Ngwesty'r Maria.
Dywedodd Crwner Hampshire, Caroline Sumeray: "Alla i ddim diystyru ei fod wedi dioddef marwolaeth naturiol fel trawiad ar y galon neu strôc."
Fe welwyd Mr Davies ar gamerau teledu cylch cyfyng yng Ngwesty'r Maria, Ynys Wyth