Arian S4C yn 'eithriadol o hael' meddai gweinidog
- Cyhoeddwyd

Mae S4C yn cael ei ariannu yn "eithriadol o hael", meddai gweinidog darlledu Llywodraeth Prydain.
Daeth sylwadau Ed Vaizey yn dilyn cyhoeddi toriadau i gyllid y sianel gan y llywodraeth.
Fe fydd yn y grant hwnnw'n lleihau o £6.7m i £5m erbyn 2020. Mae rhan fwyaf o gyllid S4C yn dod drwy ffi'r drwydded y BBC.
Dywedodd y gweinidog bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd oherwydd y "llanast trychinebus" a adawodd y blaid Lafur pan oedd mewn grym yn San Steffan.
"Mae S4C yn cael ei chyllido'n ddigonol," meddai Mr Vaizey wrth grŵp o aelodau seneddol. "Mae hi'n cael ei chyllido yn eithriadol o hael.
"Mae'n cael ei chefnogi'n hael gan y BBC. Fe fydd hi'n parhau i gael grant hael o fy adran i."
'Siom'
Dywedodd AS Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, bod "siom cyffredinol" yng Nghymru ynghylch torriadau'r llywodraeth i gyllid S4C a ddaeth yn sgil yr adolygiad gwariant fis diwethaf.
Yn ôl AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, roedd maniffesto'r Ceidwadwyr wedi addo diogelu cyllideb y sianel, ond nawr roedd yn wynebu torriadau o 26%.
Gofynnodd i Mr Vaizey os oedd yn ymwybodol o hanes Cymru a'r tro diwethaf y torodd ei blaid addewid dros S4C.
Dywedodd y gweinidog y byddai S4C yn derbyn "incwm wedi ei warantu o £90m y flwyddyn", o ystyried hefyd arian cyllid BBC News.
Dyna swm y byddai "unrhyw sefydliad arall o fewn y cyfryngau, oni bai am y BBC yn amlwg, yn wrth eu boddau yn ei gael", meddai Mr Vaizey.