Saith Diwrnod

Catrin Beard

Catrin Beard sy'n trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

Mae'n anodd ysgrifennu colofn wythnosol am y newyddion pan na fydd yr elfennau pwysig ynddi'n cyd-fynd â dedleins.

Gyda phleidlais yr Aelodau Seneddol yn San Steffan ar fomio Syria yn digwydd nos Fercher, a cholofnau yn ymddangos yn y papurau y bore canlynol, mae sawl colofnydd yr wythnos hon yn dechrau eu llith gan nodi eu bod yn ysgrifennu cyn unrhyw benderfyniad, er mae'n deg dweud bod Lyn Ebenezer, Menna Elfyn a Dylan Iorwerth ill tri wedi rhagweld y canlyniad.

Pryder Dylan Iorwerth yn Golwg ydi fod y bleidlais yn nwylo ychydig dros 600 o bobl a dim ond ychydig iawn o'r rheini'n deall y Dwyrain Canol.

Mae un dywediad cyfarwydd wedi'i ailadrodd yn gyson yn ystod y dyddiau diwetha' - mai dyletswydd cynta' gwladwriaeth yw amddiffyn ei phobl.

Yn ôl Dylan, os ydi hynny'n wir, mae'n golygu llawer mwy nag ymosod ar ychydig filoedd o filwyr eithafol, creulon, sy'n gwastrodi eu rhanbarth eu hunain, ac, yn achlysurol yn trefnu ymosodiadau marwol ar rai o wledydd y Gorllewin.

Ddwy flynedd yn ôl, Al Qaida oedd y gelyn mawr. Bellach does fawr o sôn amdanyn nhw. Mi gawson eu disodli gan garfan fwy dychrynllyd. Ond yr hyn sy'n ymddangos yn gyffredin i'r ddwy ydi eu bod nhw'n bwydo ar deimlad o anghyfiawnder a cham.

Beth fydd canlyniad bomio?

Edrych yn ôl ymhellach wna Lyn Ebenezer yn y Cymro. Yn ôl Lyn, yr enghraifft orau (neu waethaf, os mynnwch) o fethiant bomio yw Rhyfel Fietnam, pan ollyngodd America saith miliwn o dunelli o fomiau.

Roedd hyn ddwywaith a hanner yn fwy na'r pwysau o fomiau a ollyngwyd yn yr Ail Ryfel Byd yn gyfan.

Ond nawr, ddeugain mlynedd wedi diwedd Rhyfel Fietnam datgelwyd fod yr Arlywydd Nixon, hyd yn oed yn 1972, dair blynedd cyn diwedd y rhyfel, wedi cyfaddef methiant bomio fel tacteg: swm a sylwedd effaith yr holl fomio, yn ôl Nixon, oedd dim byd.

Mewn nodyn cyfrinachol i'w ymgynghorwr Henry Kissinger dywedodd: "Cawsom ddeng mlynedd o reolaeth lwyr o'r awyr yn Laos a Gogledd Fietnam. Y canlyniad = Zilch."

Yn y Western Mail, mae Menna Elfyn yn methu â chredu ein bod ar fin cychwyn ar ryfel eto fyth - er mwyn ceisio dileu IS sydd, wrth gwrs yn ideoleg ffiaidd ond wrth wneud hynny yn helpu Rwsia i gadw dyn yr un mor ddieflig mewn grym sef Assad.

Ydi, dywed, mae Rwsia yn whare wic wew â'r gorllewin ac mae'r syniad bod yn rhaid i ni gefnogi Ffrainc am iddyn nhw ofyn yn eco o'r hyn ddigwyddodd i Blair a'i antur yn Irac.

Image caption Un dyn gafodd sylw'r wasg wrth drafod bomio yn Syria, medd Cris Dafis

Y ffordd y bu'r cyfryngau'n trafod y bomio arfaethedig sydd wedi mynd â sylw Cris Dafis yn Golwg, neu, fel y dywed, y ffordd nad adroddodd y rhaglenni newyddion ar awydd David Cameron i ollwng bomiau.

Efallai ein bod yn teimlo bod y bwletinau wedi rhoi sylw mawr iawn iawn i'r mater, ond wnaethon nhw ddim. Yr hyn a gafodd y sylw, mewn gwirionedd oedd ymateb y Blaid Lafur - a'i harweinydd yn benodol.

Fu dim trafod o sylwedd ar ddoethineb cyrch o'r fath. Fu dim trafod o werth o blaid nac yn erbyn. Trodd y stori go iawn am derfysgaeth a lladd a dialedd a dinistr yn stori am drefniadau mewnol un blaid wleidyddol.

Cymaint yw obsesiwn y darparwyr newyddion gyda Jeremy Corbyn nes iddyn nhw droi un o benderfyniadau mwyaf y wlad hon yn stori am awdurdod un gwleidydd dros ei blaid.

Gyda phob parch i'r dyn, dywed Cris, nid dyfodol y Blaid Lafur na dyfodol Jeremy Corbyn yw'r stori bwysig. Mae materion pwysicach o lawer yn wynebu'r byd.