Carchar i droseddwr rhyw o Fangor

  • Cyhoeddwyd
Michael Harper

Yn Llys y Goron Caernarfon mae troseddwr rhyw, gafodd ei ddal gan griw'n gwisgo mygydau, wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd.

Clywodd y llys fod Michael Harper, 34 oed o Fangor, yn meddwl ei fod yn cwrdd â "merch" yng ngorsaf drenau Bangor.

Ond yno roedd criw o'r enw Emerald Dragon Anonymous hebryngodd e i'r orsaf heddlu ble cafodd ei arestio.

Plediodd yn euog i dair trosedd rhyw a bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.

Dywedodd yr erlynydd Elen Owen fod y criw wedi dal Harper ar 31 Gorffennaf a'i hebrwng i'r Heddlu Trafnidiaeth cyn rhoi disg gyfrifiadurol o'r sgwrs rhwng y dyn â "merch 14 oed".

Yn yr orsaf heddlu honnodd Harper mai camgymeriad oedd anfon negeseuon at "Lisa a Chloe" a'i fod yn bwriadu eu hanfon at oedolyn.