Asda'n ymddiheuro am draffig lori Coca-Cola
- Cyhoeddwyd

Mae archfarchnad Asda wedi ymddiheuro ar ôl i ymweliad gan lori Coca-Cola a siop yng Nghaerdydd achosi tagfeydd yn y ddinas.
Roedd tagfeydd ar yr M4 a'r A470 oherwydd ymweliad y lori Nadoligaidd ag archfarchnad Asda yn Coryton.
Am 19:15 roedd tagfa o bum milltir ar yr M4 i gyfeiriad y dwyrain rhwng C32 a 34.
Roedd y daith o Bontypridd i Coryton wedi cymryd awr a hanner ond erbyn hyn mae'n cymryd tri chwarter awr.
Yng Nghaerdydd roedd tagfeydd ar yr A470 rhwng Gabalfa a Chylchfan Coryton.
Dywedodd llefarydd ar ran Asda: "Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw drafferth gafodd ei achosi heno.
"Roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn ac rydyn ni'n gwneud pob dim y gallwn ni i helpu cwsmeriaid a theithwyr o amgylch y siop i barhau ar eu teithiau."
Penderfynodd Malcolm Davies ffonio rhaglen radio am 18:20.
Dywedodd: "Fe wnes i adael Bae Caerdydd am bedwar o'r gloch a wy ddim wedi cyrraedd Coryton eto."
Ar yr A4232 Ffordd Gyswllt Trelái roedd tagfa o dair milltir.
Mae'r lori'n mynd i 46 o drefi a dinasoedd yn y DG cyn Nadolig ac wedi bod yn Y Drenewydd, Llanelli a Bae Colwyn yn barod.