Dedfrydu dyn am jôc 'eithriadol o ddwl'

Kevin Johnstone Image copyright Wales News Service
Image caption Fe blediodd Kevin Johnstone yn euog i'r cyhuddiadau

Mae adeiladwr o Sir Gaerfyrddin wedi cael dedfryd ohiriedig o garchar am roi amffetamin yn niod un o'i gydweithwyr.

Fe wnaeth Kevin Johnstone, 41, o Lanelli roi'r cyffur yn siolced poeth Tony Jones "fel jôc".

Bu'n rhaid i Mr Jones fynd i'r ysbyty gan ei fod yn dioddef poenau yn ei galon.

Clywodd y llys ei fod wedi ei ryddhau o'r ysbyty wedi'r digwyddiad, ac nad oedd ei fywyd mewn perygl o gwbl.

Cwrs sgiliau meddwl

Roedd Johnstone wedi pledio'n euog i roi amffetaminau'n anghyfreithlon ac yn fwriadol.

Fe gafodd ddedfryd o ddeg mis dan glo, wedi'i gohirio am ddwy flynedd.

Bydd yn rhaid iddo fynd ar gwrs sgiliau meddwl hefyd.

Dywedodd y barnwr, y Cofiadur Elwen Evans:

"Fe wnaethoch chi hyn am ryw fath o adloniant. Roeddech chi'n meddwl mai jôc oedd hyn.

"Doedd eich ymddygiad ddim yn ddoniol," meddai.

Fe ychwanegodd fod ei ymddygiad yn "eithriadol o ddwl."