Buddsoddiad tramor: Cymru'n ffynnu?
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru'n ffynnu wrth ddenu buddsoddiad tramor, yn groes i'r darlun ledled y DU, yn ôl gwaith ymchwil Ysgol Fusnes Caerdydd.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos cwymp o 38% yn y buddsoddiad gan gwmnïau tramor i'r DU rhwng 2012 a 2014.
Ond yn ôl y gwaith ymchwil hwn, mae Cymru wedi gweld twf yn nifer y swyddi a phrosiectau sy'n dod gan fuddsoddiad tramor.
Mae'r ysgol fusnes yn awgrymu bod Cymru'n perfformio'n well na gweddill y DU, fel y digwyddodd yn yr 1980au a'r 90au.
Gwerth allforion yn cwympo
Yn y cyfamser, mae gwerth allforion o Gymru wedi cwympo 8.6% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - a'r cwymp mwyaf yn ymwneud â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r uned ymchwil yn Ysgol Fusnes Caerdydd wedi bod yn tracio buddsoddiad tramor am nifer o flynyddoedd.
Fe ddangosodd ffigyrau gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni bod 101 o brosiectau buddsoddiad ar droed yng Nghymru yn 2014/15, gan greu ac amddiffyn tua 9,600 o swyddi.
Ochr yn ochr â ffigyrau diweddar yr ONS, mae'r ysgol fusnes yn dweud y gall Cymru fod yn "perfformio'n eitha' cryf wrth ddenu buddsoddiad tramor, yn ystod cyfnod lle mae'r DU yn gweld ychydig o bwysau ar lif ariannol buddsoddiadau o'r fath".