Canolfan Gymraeg Yr Hen Lyfrgell: Creu 40 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae dros 40 o swyddi newydd i'w creu yng nghanolfan Gymraeg newydd Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell.
Ymysg y swyddi newydd - hyd at 25 llawn amser ac 18 rhan amser - mae galw am staff cegin a gweini, gwasanaeth cwsmeriaid, gofal plant yn ogystal â staff gweinyddol.
Yn y ganolfan, bydd hyd at 65 o bobl yn gweithio i gyd, gan gynnwys 10 o staff partneriaid fydd yn cael eu hadleoli yno, a 15 o weithwyr amgueddfa Stori Caerdydd.
Mae'r ganolfan yn chwilio am staff profiadol yn y caffi bar, y siop, y feithrinfa ac ar dîm gweinyddol Yr Hen Lyfrgell.
Yn ogystal, mae 'na gyfle i brentisiaid dderbyn hyfforddiant mewn rhai roliau penodol. Bydd y staff yn cael eu cyflogi gan bartneriaid preswyl y ganolfan fydd â chyfrifoldeb dros y gwasanaethau unigol.
Mewn datganiad ddydd Gwener, fe ddywedodd y ganolfan mai'r bwriad yw "cynnig amrywiaeth o wasanaethau, cyfleusterau yn ogystal â rhaglen lawn o weithgareddau".
"Yn yr adeilad eiconig dros dri llawr ar Yr Aes bydd Caffi Bar a bwyty, siop yn gwerthu cynnyrch Cymraeg, Crèche Mudiad Meithrin, gwersi Cymraeg i ddysgwyr, ardal berfformio, cyfleusterau cynadledda, ystafelloedd digwyddiadau ac Amgueddfa Stori Caerdydd."
'Prosiect cyffrous'
Fe ddywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: "Mae Yr Hen Lyfrgell am fod yn brosiect cyffrous yma yng Nghaerdydd, nid yn unig i drigolion ac i bobl Cymru, ond bydd hefyd yn gweithredu fel atyniad newydd gwych i ymwelwyr yng nghanol y ddinas lle gall pobl ddod a chlywed yr iaith Gymraeg.
"Fel cyngor un o'n blaenoriaethau yw creu mwy o swyddi a rhai sy'n talu'n well a bydd y cyfleuster newydd yma yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg allu defnyddio'r iaith mewn amgylchedd gwaith."
Mae Bethan Williams eisoes wedi dechrau yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr y Ganolfan, ac mae hi wrthi'n helpu cydlynu'r recriwtio ac yn goruchwylio camau olaf y datblygiad cyn agor i'r cyhoedd.
"Mae 'na gyfle gwych fan hyn i siaradwyr Cymraeg ddod o hyd i amrywiaeth o swyddi lle gallan nhw ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u gwaith bob dydd," meddai.
"Y brifddinas yw un o'r llefydd lle mae'r Gymraeg ar gynnydd mwyaf ac mae'r ysgolion cyfrwng Cymraeg ac amryw golegau a phrifysgolion Caerdydd wedi cynhyrchu gweithlu dwyieithog cryf yma.
"Mae'n braf cael menter sy'n cynnig ystod o swyddi - llawn a rhai rhan amser, a chyfle i bobl ifanc fanteisio ar eu Cymraeg ar gyfer gwaith."
Straeon perthnasol
- 30 Hydref 2015
- 20 Hydref 2015