'Gormod o farw-enedigaethau' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
babiFfynhonnell y llun, SPL

Mae 'na ymgyrch ar droed i geisio cwtogi nifer y marw-enedigaethau yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru un o'r cyfraddau uchaf yn Ewrop, gydag un ymhob 200 o fabanod yn cael eu geni wedi marw.

Y llynedd, roedd 177 o farw-enedigaethau yng Nghymru - cyfradd o 5.2 i bob mil o enedigaethau byw - ffigwr sy'n eithaf sefydlog ers 20 mlynedd.

Eleni, fe gafodd Grŵp Marw-enedigaethau Cenedlaethol a Rhwydwaith Famolaeth Cymru eu sefydlu, er mwyn cydweithio i ostwng y raddfa.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Claire Roche yn rhan o'r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth

Claire Roche yw rheolwr y rhwydwaith. Mae hi wedi bod yn rhan o'r ymgyrch, fydd yn canolbwyntio ar beryglon i famau beichiog, yn cynnwys ysmygu neu fod dros eu pwysau, yn ogystal â gallu adnabod symudiadau baban yn y groth.

"Pethau fel monitro symudiadau'r babi, gwybod beth i'w wneud os ydych chi'n poeni, neu ddeall y gallai newid yn symudiadau'r babi fod yn arwydd bod rhywbeth o'i le - dyna'r neges 'dy ni am ei rhoi."

Sefydlu elusen

Fe gollodd Isobel Martin ei babi 30 mlynedd yn ôl. Bum mlynedd yn ôl, fe sefydlodd elusen i ariannu gwaith ymchwil yn y maes wedi iddi sylwi nad yw'r ystadegau wedi gwella ers genediaeth Holly.

Ers hynny, mae hi wedi rhoi tystiolaeth i ACau ar y pwnc, ac wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i ddatblygu strategaeth newydd.

"Ers i mi golli 'mabi, mae 'na 150,000 yn rhagor o achosion wedi bod - mae hynny'n ridiculous. Mae hynny oddeutu 4,000 y flwyddyn.

"Ma' hynny'n lot o fabis, lot o deuluoedd a lot o ddioddef. Os allwn ni ddod â'r ffigwr i lawr o gwbl, bydd hynny'n gymorth i bobl yn y dyfodol."

Mae cyfle i glywed mwy am y stori hon ar Eye on Wales, BBC Radio Wales. 12.30, Sul 6 Rhagfyr