Ymosod ar heddwas: Carcharu tri
- Cyhoeddwyd

Mae tri wedi eu carcharu am eu rhan mewn ymosodiad "ffiaidd" ar heddwas.
Fe blediodd Rachel Heron, 38 oed, a Jacob Marriott, 23 o Laneirwg yng Nghaerdydd, yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol gwirioneddol.
Fe gafodd y ddau eu carcharu am ddwy flynedd yr un.
Fe gafodd Dennis Taylor, 62 oed o'r un ardal, ddedfryd o 14 wythnos dan glo am guro, a'i orfodi i dalu iawndal o £250.
Yn oriau mân 1 Awst roedd Sarjant James Dowler ar ddyletswydd yn Llaneirwg. Fe gerddodd tuag at gerbyd a daeth Dennis Taylor allan ohono.
Ffrwgwd
Fe ddechreuodd Taylor gerdded oddi wrth Sarjant Dowler er iddo ofyn iddo roi'r gorau iddi nifer o weithiau.
Wedi i'r sarjant redeg ar ôl Taylor roedd ffrwgwd rhwng y ddau cyn i Heron a Marriot ymuno yn yr ymosodiad, gan ei bwnio, ceisio ei brocio yn ei lygaid, a chymryd ei radio heddlu.
Dywedodd yr erlynydd Matthew Roberts fod yr ymosodiad yn "ffiaidd a llwfr".
Fe ddiolchodd yr Uwch-arolygydd Stephen Jones i'r cyhoedd am eu cefnogaeth i Sarjant Dowler wedi'r ymosodiad ac ychwanegodd fod y llu yn parhau i'w gefnogi ef a'i deulu wrth iddo wella.