Bws ysgol: Arestio gyrrwr am yfed a gyrru
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y bws ei stopio ar Ffordd Maendy, Pentre
Fe gafodd gyrrwr bws ysgol oedd yn cludo disgyblion chweched dosbarth yn Rhondda Cynon Taf ei arestio ddydd Iau.
Fe stopiodd yr heddlu'r bws ar Ffordd Maendy, Pentre, ychydig cyn 11:00 fore Iau, oherwydd amheuaeth fod y gyrrwr wedi bod yn yfed.
Fe gafodd y dyn 44 oed o Lyn Rhedynog (Ferndale) ei gymryd i'r ddalfa.
Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.