Euro 2016: Setlo taliadau chwaraewyr Cymru?
- Cyhoeddwyd

Mae chwaraewyr Cymru yn trafod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru oherwydd taliadau bonws wedi i'r tîm gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016.
Cyn yr ymgyrch roedd y chwaraewyr yn deall y byddai'r gymdeithas yn cynnig bonws saith ffigwr i'r garfan ond wedi iddyn nhw hawlio'u lle yn Ffrainc roedd y cynnig yn is.
Mae Chwaraeon BBC Cymru ar ddeall bod chwaraewyr blaenllaw - gan gynnwys Gareth Bale, Ashley Williams a Aaron Ramsey - yn arwain y trafodaethau.
Ond mynnu mae'r gymdeithas nad oes anghydfod a bod sgyrsiau o'r fath yn gyffredin.
Cyfran deg
Er bod rhai o sêr Cymru fel Bale, Williams a Ramsey yn ennill cyflogau uchel, maen nhw'n awyddus bod chwaraewyr eraill o'r garfan, sydd ar gyflogau is, yn cael cyfran deg o unrhyw daliad ychwanegol.
Dechreuodd y trafod rhwng y chwaraewyr a'r gymdeithas ym mis Hydref.
Fe barhaodd rheiny pan wynebodd Cymru yr Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar ym mis Tachwedd.
Er nad oedd Bale na Ramsey yn y garfan, y ddealltwriaeth yw bod y ddau wedi cysylltu â'i cyd chwaraewyr er mwyn cael gwybod beth oedd sefyllfa ddiweddara'r trafodaethau.
Bydd Cymru yn cael gwybod ble ac yn erbyn pwy y byddan nhw'n chwarae yn Euro 2016 ar 12 Rhagfyr.
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Cymru mewn prif gystadleuaeth ryngwladol ers Cwpan y Byd 1958.