Gleision 20-16 Connacht

Gleision Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Gleision wedi cipio eu hail fuddugoliaeth o'r tymor yn y gynghrair drwy guro'r ceffylau blaen yn y Pro12, Connacht.

Fe sgoriodd yr wythwr, Manoa Vosawai, a'r asgellwr, Tom James, y ceisiau gyda Rhys Patchell yn cicio 10 pwynt.

Connacht oedd ar y blaen o 13-10 ar yr hanner diolch i geisiau gan y mewnwr, Ian Porter, a'r cefnwr, Eoin McKeon.

Ond fe darodd y Gleision yn ôl yn yr ail hanner i ennill y gêm.