Tywydd: 70 o dai yn y gogledd yn parhau heb drydan
- Published
Mae 70 dai heb drydan yng Nghonwy a Chorwen yn Sir Ddinbych yn dilyn tywydd garw.
Yn ôl Scottish Power mae'r gwaith o adfer y cyflenwad wedi parhau dros nos a bydd hynny'n parhau dydd Sul.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod dau o rybuddion coch o lifogydd mewn grym ac naw o rybuddion melyn - rhai llai difrifol.
Roedd 700 o dai heb drydan yn y gogledd dydd Sadwrn.
Y disgwyl ydi y bydd y glaw yn gostegu ar draws Cymru dydd Sul, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Bu'r gwynt yn hyrddio 83 mya yng Nghapel Curig, Eryri, dydd Sadwrn.