Gwrthdrawiad A5: Cerddwr wedi marw
- Cyhoeddwyd

Cafodd cerddwr ei ladd wedi gwrthdrawiad â char ar yr A5 yn hwyr nos Wener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 23:00 ar y ffordd rhwng Llangollen a'r Waun.
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.