Barnet 0-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Rex Features
Mae Casnewydd wedi cyrraedd trydedd rownd Cwpan FA Lloegr am y tro cyntaf ers 1989 gyda buddugoliaeth yn Barnet.
Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn yr ail hanner diolch i beniad Scott Boden o groesiad Andrew Hughes.
Er i Barnet ddod yn agos i wneud y gêm yn gyfartal, roedd unig gôl y prynhawn yn ddigon i Gasnewydd.
Mae hi'n ddeg gêm ers y tro diwethaf i Gasnewydd golli ym mhob cystadleuaeth.