Beiciwr modur wedi'i hedfan i ysbyty yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Yr hofrennydd yn glanio yng Nghaerdydd
Mae beiciwr modur wedi cael ei hedfan i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Merthyr Tudful.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad cyn 3pm ddydd Sadwrn ym Mharc Beicio Cymru yn ardal Coed Gethin.
Cafodd y beiciwr ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Does dim gwybodaeth am ei gyflwr hyd yma.