Dechrau ar ymchwiliad i ddarlledu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Bydd grŵp o Aelodau Seneddol yn San Steffan yn dechrau ar eu hymchwiliad i ddarlledu yng Nghymru ddydd Llun.
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig am gynnal y sesiwn yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg - y tro cyntaf yn ystod y tymor Seneddol hwn.
Fe fydd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, a Chymdeithas yr Iaith ymhlith y rhai i roi tystiolaeth.
"Rwy'n falch ein bod yn agor ein hymchwiliad newydd drwy gynnal gwrandawiad drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai cadeirydd y pwyllgor, David Davies.
"Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn ystod y tymor Seneddol hwn. Gan fod y pwyllgor yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin, mae ond yn briodol ein bod yn adlewyrchu'r 320,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl.
"Un o brif themâu'r ymchwiliad fydd darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy'n edrych ymlaen i glywed yr hyn fydd gan y tystion i ddweud."