Corff dyn ar draeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dechrau ar ôl i gorff dyn 61 oed gael ei ddarganfod ar draeth yn Sir Gaerfyrddin.
Darganfuwyd corff y dyn lleol ger Doc y Gogledd ar draeth Llanelli am 09:45 ddydd Sul.
Mae ei deulu wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud nad oes modd esbonio'r farwolaeth, ond nid yw'n cael ei thrin fel un amheus.