Capel Cymraeg yn Llundain yn gwahardd pobl ddigartref
- Cyhoeddwyd

Mae capel Cymraeg yn Llundain wedi gwahardd pobl ddigartref rhag cysgu tu allan i'r eiddo.
Mae llythyr wedi ei osod tu allan i Eglwys Gymraeg Canol Llundain, ger Oxford Street, sydd yn dweud nad ydynt yn caniatáu i bobl ddigartref gysgu ym mynedfa'r capel, nac i fochel ar y grisiau sy'n arwain at flaen yr adeilad.
Yn ôl gweinidog yr eglwys, bwriad y llythyr yw galluogi'r heddlu i symud pobl ddigartref o flaen yr eiddo i ganolfan bwrpasol sydd nid nepell o'r capel.
Dywed y llythyr ar fynedfa Stryd Eastcastle: "Rydym yn rhoi caniatâd i unrhyw swyddog o Heddlu Llundain ofyn i unrhyw bersonau sydd ar ein heiddo preifat heb ein caniatâd i symud ar unwaith, ac rydym yn hapus iddynt ddefnyddio eu pwerau i gael gwared arnynt os byddant yn methu â chydymffurfio."
Dywedodd gweinidog yr eglwys, Rob Nichols, eu bod wedi gweithredu yn dilyn cyngor gan yr heddlu, ac mai swyddog heddlu'r Met ddywedodd wrth aelodau Eglwys Gymraeg Canol Llundain sut i eirio'r llythyr.
"Mae 'na ganolfan bwrpasol i'r digartref yn agos iawn i'r capel - St. Mungo's - lle y cawn nhw loches a rhywbeth i'w fwyta, a bwriad y llythyr yw galluogi'r heddlu i hebrwng y bobl sy'n cysgu o flaen y capel i'r ganolfan, fel nad ydynt yn gorfod treulio'r noson allan yn yr oerfel." meddai Mr Nichols.
Ychwanegodd: "Yn amlwg, mae 'na broblem o bobl yn cysgu allan yn yr awyr agored, a'n gobaith ni ydi fod y trefniant yma yn gwneud pethau'n well ac yn brafiach iddyn nhw."
Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i heddlu'r Met am eu hymateb.