Garry Monk wedi ei ddiswyddo fel rheolwr Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi bod Garry Monk wedi gadael swydd rheolwr y clwb.
Fe ddaw'r penderfyniad wedi i'r Elyrch golli 3-0 yn erbyn Leicester City ddydd Sadwrn.
Dim ond un gêm o'r 12 diwethaf y mae Abertawe wedi ei hennill.
Ers i Monk gymryd yr awenau gan Michael Laudrup yn Chwefror 2014, mewn 77 gêm, mae'r Elyrch wedi ennill 28 gwaith, wedi colli 32, ac mae 17 gêm wedi gorffen yn gyfartal.
Fe fydd Abertawe yn teithio i Stadiwm Etihad ddydd Sadwrn i wynebu Manchester City.