'Angen gwella llwybrau diogel i'r ysgol'

  • Cyhoeddwyd
Plentyn ar feic

Mae disgyblion ar draws Cymru yn galw am lwybrau gwell a mwy diogel i'r ysgol, yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.

Mae'r adroddiad, 'Teithio i'r Ysgol' wedi ei seilio ar arolwg o bron i 1,000 o blant oed cynradd gan y Comisiynydd a Sustrans Cymru.

Roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu bod plant am gael mwy o lais yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am lwybrau ysgol o fewn eu cymunedau.

Mae'r llywodraeth wedi croesawu'r adroddiad ac yn dweud bod angen i awdurdodau lleol ymgynghori wrth gynllunio sut all plant deithio i'r ysgol.

78% eisiau llais

Yn ôl Sally Holland: "Mae gan blant hawliau o ran teithio i'r ysgol ac yn eu cymunedau, ar droed, ar feic, neu ar sgwter."

Yn ogystal â nodi pryderon plant am draffig, mae hefyd yn sôn am eu sylwadau am ansawdd gwael pafinau a llwybrau cerdded a beicio. Mewn rhai achosion does dim llwybrau addas o gwbl.

Dywedodd Sally Holland mai'r "ystadegyn mwyaf trawiadol yn yr arolwg yw'r un sy'n dangos bod 78% o blant yn credu y dylai fod ganddyn nhw lais o ran cynllunio llwybrau i'r ysgol...a syniadau pendant ynghylch sut mae modd gwneud hynny".

Mae'r Comisiynydd yn cyhoeddi`r adroddiad yn Ysgol Gynradd Rhosybol ddydd Mawrth.

Yn ôl Gwen Thomas, swyddog Beiciwch Hi Ynys Mon gyda Sustrans Cymru, mae bron i hanner y plant yn nodi y bydden nhw'n hoffi "cael mwy o gymorth ysgol er mwyn gwneud y daith mewn modd sydd yn iachach, cynhaliadwy a hwyl".

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad gan eu bod yn awyddus i weld mwy o blant yn cerdded neu seiclo i'r ysgol.

Dywedodd llefarydd bod y llywodraeth yn gosod terfynau cyflymder o 20 mya y tu allan i bron i 50 o ysgolion, ac wedi esbonio i awdurdodau lleol bod angen ymgynghori gyda phlant ynglyn a'r mater o deithio i'r ysgol.