Gwrthdrawiad A5: Enwi mwech 18 oed fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi enwi cerddwr fu farw wedi gwrthdrawiad â char ar yr A5 ger Llangollen.
Roedd Katie Griffith o Riwabon yn 18 oed.
Digwyddodd y gwrthdrawiad â char Seat Leon du tua 23:00 nos Wener ger cyffordd yr A5 a Ffordd Maes Mawr.
Mae'r heddlu'n apelio am dystion.