Carwyn Jones: 'Dim cyswllt cyson â Cameron'
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud bod diffyg cyfarfodydd gyda David Cameron yn ei gwneud yn anodd trafod "materion pwysig".
Dywedodd wrth bwyllgor o ASau bod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth wedi "gwaethygu" dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Does gennym ni ddim cyswllt cyson gyda'r Prif Weinidog a dydi'r llythyrau ddim pob tro yn cael ateb," meddai Mr Jones.
Ychwanegodd nad yw arweinwyr pedair gwlad y DU wedi cyfarfod fel grŵp am 15 mis.
Diffyg trafod
Roedd Mr Jones yn rhoi tystiolaeth i ASau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol ar ymweliad â Chaerdydd ddydd Llun.
Dywedodd mai'r tro diwethaf iddo gyfarfod y prif weinidog oedd ym mis Mehefin, a bu'n siarad am ei bryder am y diffyg cyfle i drafod materion cyfansoddiadol fel Mesur Cymru.
"Y cyswllt sydd gen i gyda Llywodraeth y DU yw gydag Ysgrifennydd Cymru, ond does dim system i gael cyfarfodydd cyson rhwng arweinwyr," meddai.
"Canlyniadau hyn yw nad yw'n bosib trafod materion pwysig."