Ffoaduriaid o Syria i gyrraedd Cymru yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd
FfoaduriaidFfynhonnell y llun, AFP

Bydd y ffoaduriaid cyntaf sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Syria yn cyrraedd Cymru yr wythnos yma, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd Torfaen, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili yn croesawu tua 50 o ffoaduriaid o Syria, gyda'r nod o'u hailgartrefu yn y gymuned ac ailddechrau eu bywydau cyn y Nadolig.

Daw'r ffoaduriaid fel rhan o'r Rhaglen i Adsefydlu Ffoaduriaid o Syria, yn uniongyrchol o Libanus, Gwlad yr Iorddonen a Thwrci.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio eu bod wedi bod trwy broses fetio dau-gam trylwyr cyn cyrraedd, a rhoddwyd diogelwch dyngarol llawn iddynt am bum mlynedd - sy'n golygu y byddan nhw'n gallu byw, gweithio a chyfrannu at fywyd cymunedau yng Nghymru.

'Croeso cynnes'

Dywedodd cadeirydd Tasglu Ffoaduriaid Syria, y Gweinidog Lesley Griffiths: "Yma yng Nghymru, rydym yn ymfalchïo yn ein hanes o groesawu ffoaduriaid o bob rhan o'r byd.

"Rwy'n falch i ddweud bod y traddodiad hwnnw'n parhau wrth i bob awdurdod lleol yng Nghymru gadarnhau eu bod yn barod i groesawu ffoaduriaid o Syria i'w cymunedau, cyn gynted ag y bydd y gwasanaethau cymorth angenrheidiol wedi'u rhoi ar waith.

"Mae'n galonogol gweld yr holl gefnogaeth ar gyfer y ffoaduriaid y mae pobl o Gymru wedi'u dangos dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.

"Rwy'n hyderus y bydd pobl yn Nhorfaen, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili yn cynnig croeso cynnes i'r bobl a'r teuluoedd hyn sy'n cyrraedd yr wythnos yma, a'u helpu i ddod yn rhan o fywyd Cymru.

Ffynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,
Daw'r ffoaduriaid yn uniongyrchol o Libanus, Gwlad yr Iorddonen a Thwrci

Dywedodd Salah Mohamed, Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru: "Mae pobl ledled Cymru yn barod i groesawu ffoaduriaid o Syria gan ddangos tosturi a charedigrwydd tuag atynt.

"Mae Cynghrair Ffoaduriaid Cymru wedi'i ysbrydoli gan yr holl gefnogaeth a ddangoswyd ar gyfer y ffoaduriaid yng Nghymru.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau'r ffoaduriaid hynny o Syria a fydd yn cyrraedd."