Cyn-heddwas yn ddieuog o dreisio
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-heddwas wedi ei gael yn ddieuog o dreisio ac ymosod yn anweddus ar ferch ifanc.
Fe wnaeth rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd benderfynu bod Colin Hart, 61 oed o Nelson ger Caerffili, yn ddieuog o bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o dreisio merch o dan 16 oed.
Methodd y rheithgor â phenderfynu ar ddau gyhuddiad arall o ymosod yn anweddus.
Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ar 14 Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2015