Mamolaeth Betsi Cadwaladr: Newid yn 'chwarae efo bywydau'
- Cyhoeddwyd

Mae mam i blentyn ifanc o ardal Caernarfon wedi galw ar yr awdurdodau i beidio â gwneud newidiadau i wasanaeth mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd.
Yr wythnos diwethaf, daeth adroddiad i'r amlwg oedd yn argymell y dylai doctoriaid barhau i arwain yr unedau mamolaeth yn nhri o brif ysbytai'r gogledd.
Mae disgwyl i aelodau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gyhoeddi eu penderfyniad ddydd Mawrth, ac mae'n bosib y bydd y bwrdd yn cadw'r drefn fel ag y mae.
Rhoddodd Ceri Rhiannon Roberts o'r Felinheli enedigaeth i'w mab, Seth Elis, naw wythnos yn fuan ym mis Medi 2015.
Os na fyddai doctoriaid wedi arwain y gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd, mae'n debyg y byddai hi wedi gorfod mynd i Ysbyty Glan Glwyd ym Modelwyddan.
Mae'n "hunllef" meddwl be allai'r oblygiadau fod wedi bod, meddai.
'Chwarae efo bywydau'
"Mae'n hollol annerbyniol meddwl am dynnu gwasanaeth doctoriaid o Ysbyty Gwynedd," ychwanegodd Ms Roberts.
"Mae safonau'r uned o'r radd flaena' ac mae angen ei gynnal fel gwasanaeth llawn ar gyfer holl ferched yr ardal.
"Dw i'n lwcus achos fy mod i'n byw yn y Felinheli, ond dw i'n poeni os byswn i'n cael ail fabi y bysa fo'n gallu cael ei eni yn nhwnnel Conwy os na fysa 'na ddoctor ar gael i helpu.
"Os ydych chi'n byw yn Aberdaron mi fysa fo'n cymryd awr a deg munud i gyrraedd Ysbyty Gwynedd. Maen nhw'n chwarae efo bywydau mamau a babanod ifanc jyst i safio pres.
"Does yna ddim digon o staff [yn Ysbyty Gwynedd] ond mae hynny achos bod nhw ddim yn cael digon o gyllid. Maen nhw hefyd o dan lot o straen."