Allyriadau: Toriad 40% yn bosib?

  • Cyhoeddwyd
Emissions

Mae Llywodraeth Cymru yn ffyddiog y gall y wlad gyrraedd targed i leihau allyriadau o 40% erbyn 2020, yn ôl y gweinidog â chyfrifoldeb am yr amgylchedd.

Ond mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn codi amheuon am y gallu i gyrraedd y targed.

Mae allyriadau Cymru wedi lleihau 12% ers i'r targed gael ei osod yn 2010 - a hynny'n seiliedig ar lefelau allyriadau yn 1990.

Yn 2012 roedd mwy o leihad allyriadau yng ngwledydd eraill y DU na Chymru.

Yn uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd ym Mharis, dywedodd Carl Sargeant wrth BBC Cymru ei fod yn "hyderus" y byddai modd cyrraedd y targed.

'Uchelgais'

"Yr hyn sydd angen ei wneud fel llywodraeth yw bod yn uchelgeisiol a symud ymlaen," meddai.

"Rydyn ni wedi cyfarfod pobl bwysig iawn, ac mae gyda ni ran allweddol yma. Rydw i wedi cyfarfod Ban Ki-Moon gyda gweinidogion y DU, ond rydw i hefyd wedi cyfarfod llawer o arweinwyr ar draws y byd, yn edrych ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud a cheisio rhannu gwybodaeth."

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Mr Sargeant bod angen cynlluniau fel Cylchffordd Cymru i roi cyfleoedd economaidd

Pan ofynnwyd sut y byddai cynllun y llywodraeth i adeiladu ffordd osgoi'r M4 a thrac rasio newydd yng Nglyn Ebwy yn cyfrannu at leihau allyriadau, dywedodd Mr Sargeant: "Mae angen uchelgais a chymysgedd o gyfleoedd economaidd i Gymru.

"Yr hyn allwn ni ddim ei wneud yw rhoi un yn erbyn y llall, gallwn ni wneud y ddau gyda'i gilydd."

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio aros yn weinidog adnoddau naturiol ar ôl etholiad y Cynulliad.

'Bron yn amhosib'

Yn y cyfamser, dywedodd Gareth Clubb o Cyfeillion y Ddaear Cymru: "Mae hi'n bron yn amhosib iddyn nhw gyrraedd y targed nawr am na ddechreuon nhw weithredu'n ddigon buan."

Dim ond trwy gau rhai o safleoedd diwydiannol mwyaf Cymru y byddai'r wlad yn llwyddo i leihau ei hallyriadau ddigon, meddai.

"Dros y saith mlynedd nesa bydd rhaid i Lywodraeth Cymru wella'i strategaeth allyriadau chwe gwaith drosodd os yw'n mynd i gwrdd â'r targed."

"Dwi ddim yn credu fod unrhyw un yn gweld hynny'n digwydd."