Pryder am ddyfodol elusen Anabledd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae elusen Anabledd Cymru wedi rhybuddio y gallan nhw orfod cau oherwydd lleihad yn eu hincwm gan y llywodraeth.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd yr elusen y byddai'n colli 68% o'i hincwm ar ôl i gais am grant gan Lywodraeth Cymru gael ei wrthod.
Yn ôl yr elusen, gall hynny olygu bod rhaid cau o fewn pedwar mis.
Dywedodd y llywodraeth nad oedd Anabledd Cymru wedi cyrraedd y gofynion i gael y grant, ond ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth yn gweithio i sicrhau dyfodol yr elusen.
'Ergyd drom'
Mae Anabledd Cymru wedi bodoli ers y 1970au cynnar, a nod yr elusen yw ceisio dylanwadu ar bolisi drwy gynrychioli pobl anabl.
Dywedodd cadeirydd yr elusen, Wendy Ashton: "Mae colli cyllid craidd Llywodraeth Cymru yn ergyd drom iawn, yn arbennig ar gyfnod pan mae pobl anabl, sy'n cynrychioli 20% o boblogaeth y wlad, yn wynebu toriadau i fudd-daliadau a gwasanaethau.
"Erbyn hyn mae pobl anabl yn cynrychioli 20% o boblogaeth y wlad ac maent yn wynebu lefelau tlodi uwch nag unrhyw grŵp arall o bobl..."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd Anabledd Cymru wedi cyrraedd y gofynion ar gyfer grant eleni.
Ychwanegodd: "Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Anabledd Cymru i weld sut allai gynorthwyo'r mudiad i ddelio gyda'r newid a sicrhau dyfodol cynaliadwy.
"Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol wrth i ni ddelio gyda chyllidebau llai."