Euog o ddwyn 'er mwyn achub swyddi'
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed sut yr aeth rheolwraig siop o Landudno ati i ddwyn gwerth dros £3,000 o gardiau hapchwarae yn y gobaith o ennill arian mawr i achub ei swydd hi a'i chydweithwyr.
Clywodd llys ynadon y dre fod Susan Ireland, 50 oed, wedi cael gwybod y byddai'r siop oedd yn gyflogi pump o weithwyr yn cau.
Dywedodd cyfreithiwr yr amddiffyniad, Graham Parry: "Roedd hi'n gobeithio ennill arian mawr ac achub swyddi pawb."
Mae Ireland yn cyfaddef iddi ddwyn saith pecyn o gardiau hapchwarae Camelot, gwerth £3,062. Mae hi hefyd yn cyfaddef iddi dwyllo trwy fynd a'r cardiau i siopau a hawlio 65 gwobr ariannol gwerth £1,000.
"Mae'n ddrwg iawn gan Miss Ireland am yr hyn mae hi wedi ei wneud", dywedodd Mr Parry.
Bydd Ireland ar fechniaeth tra bod adroddiad yn cael ei baratoi, a bydd yn cael ei dedfrydu ar ôl asesiad gan y tîm iechyd meddwl cymunedol.