Fideos y flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae wedi bod yn flwyddyn dda i fideos feiral yn y Gymraeg eleni gydag ambell un yn cipio'r dychymyg ac yn cael ei rhannu ar hyd a lled y byd diolch i'r rhwydweithiau cymdeithasol a'r we.
Dyma bump o'r rhai mwyaf poblogaidd.
Yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, cyn i Gymru chware Fiji, penderfynodd Chris Evans chwarae anthem yr ynys ym Môr y De i ddangos ei gefnogaeth iddyn nhw. Datgelodd hefyd y byddai'n cefnogi Lloegr yn erbyn gwŷr Warren Gatland.
Felly penderfynodd ei gyd-droellwr disgiau Huw Stephens fentro draw i Radio 2 i geisio ei berswadio i newid ei feddwl. Dyma sut aeth y cyfarfod tactegol hwnnw...
Chris Evans
Roedd 'na awyrgylch cwbl Gymreig ynghanol Efrog Newydd ddiwedd mis Hydref gyda channoedd o bobl ifanc yn dod at ei gilydd ar gyfer perfformiad go arbennig.
Roedd nifer o ysgolion Cymru ar daith yn America ar y pryd, ac fe benderfynodd un athro ddod â phawb at ei gilydd i ganu Hen Wlad fy Nhadau yn Times Square, un o leoliadau mwyaf eiconig y ddinas.
Cannoedd o Gymry yn Times Square
Beth ydych chi'n ei wneud pan fo Cymru'n sgorio a chithau'n darlledu'n fyw o dafarn? Yr ateb? Dathlu!
Roedd Carl Roberts yn darlledu'n fyw ar Newyddion 9 yn y Masons Arms yn Ninbych pan roedd Cymru yn chwarae Cyprus yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 ar 3 Medi.
Tra roedd Carl yn holi cefnogwyr yn dreiddgar fel arfer mi wnaeth Gareth Bale sgorio i sicrhau buddugoliaeth i Gymru. Ciw dathlu gwallgof!
Gareth Bale yn sgorio'n fyw ar Newyddion 9
Fis Awst aeth criw o Clwyd Theatr Cymru a'r Urdd i Batagonia i berfformio'r sioe 'Mimosa' i ddathlu 150 ers sefydlu'r Wladfa. Un bore, ymwelodd y criw â thraeth ac ogofâu Porth Madryn lle cafodd y fintai gyntaf o Gymry gysgod.
Dechreuodd y criw ganu 'Anthem Patagonia' ger yr ogofâu - profiad fyddai, yn ôl y bobl ifanc, yn aros yn eu calonnau am byth.
"Cawsom y cyfle i ganu 'Anthem Patagonia' ger yr ogofau - profiad a fydd yn aros yn ein calonnau am byth."
Dyma ymgais Radio Cymru i osod record byd am 'Y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd' ar ddiwrnod Cerddoriaeth y BBC ar 5 Mehefin.
Roedd y gantores opera Shân Cothi yn cyd-ganu'r emyn Calon Lân gydag Andres Evans; Shân yng Nghaerdydd ac Andres ym Mhatagonia. 7000 o filltiroedd i ffwrdd.
Dyma ymgais Radio Cymru i osod record byd am 'Y pellter mwyaf rhwng pobol yn canu deuawd'