Cyngor Penfro: 'Cryn le i wella', medd adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Pembrokeshire council headquarters in HaverfordwestFfynhonnell y llun, Ceridwen/Geograph
Disgrifiad o’r llun,
Pencadlys Cyngor Penfro

Mae adroddiad swyddogol yn dweud fod gan Gyngor Sir Penfro "gryn le i wella" o ran trefniadau cynllunio ariannol, systemau rheoli a'r broses o wneud penderfyniadau.

Yn yr adroddiad, mae'r Swyddfa Archwilio yn cydnabod fod y cyngor wedi cymryd camau cynnar o ran datblygu strategaeth gorfforaethol.

Ond daw'r adroddiad i'r casgliad na all y Cyngor hyd yma ddarparu "sicrwydd digonol fod ei drefniadau yn gallu cyflawni ei flaenoriaethau a gwella canlyniadau i ddinasyddion."

Galwodd y Swyddfa Archwilio ar y cyngor i lunio cynllun er mwyn mynd i'r afael â'r "gwendidau."

Dywedodd arweinydd Cyngor Penfro, y Cynghorydd Jamie Adams, ei fod yn derbyn casgliadau Adroddiad Asesu Corfforaethol 2015.

'Cyfeiriad cywir'

Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, "mae angen i'r cyngor ffocysu ar sicrhau fod trefniadau cadarn wedi eu gosod a fydd yn helpu'r cyngor i sicrhau ei fod yn cwrdd â'i flaenoriaethau ac yn cyflawni canlyniadau gwell i ddinasyddion."

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Mr Adams: "Rydym yn falch fod yr adroddiad yn cydnabod ein bod wedi gwneud gwelliannau mewn rhai meysydd allweddol, ac yn ein perfformiad.

"Mae'r adroddiad yn cadarnhau fod yr awdurdod yn mynd i'r cyfeiriad cywir," meddai.

"Yn wir, cafodd hyn ei danlinellu mor ddiweddar â mis Medi, pan gafodd Sir Penfro ei gydnabod fel y cyngor oedd wedi dangos y gwelliant gorau yng Nghymru.

"Rydym yn derbyn fod yr adroddiad yn adlewyrchiad cywir o'r awdurdod pan ddaeth swyddogion y Swyddfa Archwilio yma ym mis Ebrill.

"Ond ers hynny, rydym wedi dangos cynnydd."

Fe fydd cynghorwyr sir yn trafod cyfansoddiad newydd ddydd Iau yr wythnos hon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol