Cyllideb: £300m ychwanegol ar iechyd

  • Cyhoeddwyd
CashFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn mwy o arian o gyllideb Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad i Aelodau Cynulliad dywedodd Jane Hutt y byddai cyllideb y llywodraeth yn crebachu o 3.6% yn nhermau real erbyn 2019-20.

Fe wnaeth Aelodau Llafur floeddio wrth i Ms Hutt gyhoeddi y byddai bron i £300m ychwanegol ar iechyd y flwyddyn nesaf.

Bydd tua £260m o hynny yn cael ei wario ar gostau dydd i ddydd y GIG.

Bydd £33m arall yn mynd ar isadeiledd a chynnal a chadw safleoedd ac offer y GIG.

Disgrifiad o’r llun,
Tua £15.53 biliwn yw cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16

Setliad 'heriol'

Dyma fanylion newidiadau fesul adran:

  • Y Gwasanaeth Iechyd - 4.3% yn rhagor o arian
  • Llywodraeth leol - 2% yn llai o arian
  • Cymunedau a thaclo tlodi - 10.7% yn rhagor o arian
  • Economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth - 5.9% yn rhagor o arian
  • Addysg a sgiliau - 1.1% yn rhagor o arian
  • Adnoddau naturiol - 2.6% yn rhagor o arian

Un maes fydd yn derbyn llai o arian yn sgil y cyhoeddiad yw addysg bellach.

Bydd cyllideb y corff sy'n ariannu prifysgolion Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn cael ei dorri o £21.7m, neu 16%.

Mae CCAUC eisoes wedi rhybuddio nad oes digon o arian ar gael i brifysgolion Cymru oherwydd y ffordd y mae ffioedd dysgu yn cael eu hariannu.

Yn gyffredinol, fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi cynnydd o 1.1% ym maes addysg a sgiliau.

Wrth gyhoeddi'r gyllideb ddrafft, dywedodd Ms Hutt mai'r "nod yw buddsoddi at y dyfodol".

Dywedodd fod hwn yn setliad "heriol" mewn cyfnod "pan rydyn ni wedi gweld un toriad ar ôl y llall" ond ychwanegodd eu bod wedi ceisio "gwneud popeth y gallwn ni i ddiogelu'r gwasanaethau hynny sydd bwysicaf i bobl Cymru".

"Rydyn ni wedi llwyddo i ddiogelu amrywiaeth ehangach o wasanaethau nag yn Lloegr - ysbytai a gofal sylfaenol, gwasanaethau cymdeithasol, a chyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion, prentisiaethau ac addysg bellach.

"Ond rydyn ni'n sylweddoli hefyd yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar feysydd eraill.

"Mae ein hagwedd ehangach at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - canolbwyntio ar atal problemau a chynllunio ar gyfer y tymor hwy - wedi bod yn ganolog wrth inni gynllunio'r gyllideb ddrafft hon."

Ymateb

Er iddi groesawu'r gwariant ychwanegol ar iechyd, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood nad oedd yn mynd yn ddigon pell.

Dywedodd: "Mae unrhyw gynnydd mewn buddsoddiad iechyd i'w groesawu, ond chaiff pobl mo'u twyllo gan gyllideb driciau Llafur.

"I ateb y pwysau sy'n wynebu staff ein GIG a phawb sy'n elwa o'r gwasanaeth, mae angen gwario estynedig dros y pum mlynedd nesaf."

Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Nick Ramsay na fyddai hwb y blaid Lafur i wariant iechyd yn dadwneud y toriadau yn y gorffenol i arianu'r Gwasanaeth Iechyd.

"Israddio ysbytai, oedi anferth mewn amseroedd aros, methiant recriwtio staff: mae'r blerwch yma'n ganlyniad uniongyrchol o doriadau'r blaid Lafur i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd", meddai.

"Wrth fethu ag amddiffyn y gyllideb, mae'n gwasanaeth iechyd wedi ei amddifadu o £1bn ers 2010/11."

Dywedodd Peter Black ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai £1,150 yn ychwanegol yn mynd i bob ysgol am bob disgybl oedd yn gymwys i dderbyn cinio am ddim, fel rhan o fargen dwy flynedd yr oedd ei blaid wedi ei daro gyda gweinidogion y blaid Lafur yn 2014.

Ond fe ofynnodd am sicrwydd na fyddai'r arian ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei wario ar ddyledion y gwasanaeth yn lle cael ei fuddsoddi ar wasanaethau.