Cyngor Môn yn galw am wifrau dan ddaear
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Cyngor Ynys Môn wedi galw ar gwmni National Grid i ystyried gosod gwifrau tanddaearol yn hytrach na chodi mwy o beilonau ar hyd yr ynys yn dilyn cyfarfod ddydd Mercher.
Wrth i ail ymgynghoriad National Grid i gynlluniau adeiladu llinell gyflenwi trydan newydd gyda foltedd uchel ddod i ben, mae'r cyngor yn dadlau fod cryn wrthwynebiad i'r peilonau newydd ar draws yr ynys.
Dywed y cyngor y byddai'r 'coridor oren' sy'n cael ei ffafrio gan National Grid yn golygu y byddai llinell bŵer uwchben y ddaear yn ymestyn o is-orsaf Wylfa yng ngogledd yr ynys i is-orsaf Pentir yng Ngwynedd.
Dywed National Grid fod y gwaith o ddewis llwybr ar gyfer cysylltiad gyda Wylfa Newydd yn gorfod ystyried "cydbwysedd anodd rhwng ystod eang o faterion pwysig."
Adroddiad
Yn ôl adroddiad gafodd ei drafod gan gyfarfod arbennig o'r cyngor llawn ddydd Mercher, mae deddfwriaeth a pholisi cynllunio cyfredol yn gosod achos yn erbyn gosod gwifrau uwchben y ddaear a chodi peilonau newydd.
Mae'r adroddiad, a baratowyd gan swyddogion y Cyngor, yn dadlau y byddai'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan National Grid, sef codi mwy o beilonau, yn 'niweidiol i les trigolion' ac, yn ogystal, yn cael 'effaith negyddol' ar harddwch naturiol yr ynys.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth cynghorwyr ddadlau fod angen am gyswllt tanddwr i gysylltu gorsaf bŵer Wylfa Newydd a'r rhwydwaith trydan cenedlaethol.
Ond oherwydd risgiau technegol a masnachol yr opsiwn yma, fe bleidleisiodd y cynghorwyr yn unfrydol eu bod am alw ar National Grid i beidio codi peilonau, ac i osod gwifrau o dan y ddaear.
Gwifrau
Dywedodd Mr Jones mewn datganiad: "Bydd gosod gwifrau dan y ddaear yn golygu na fydd unrhyw effaith weledol yn y tymor hir, sy'n gryn fantais a'r arwyddion cynnar gan arbenigwyr yn y maes yw bod gosod gwifrau dan y ddaear yn debygol o fod yn ymarferol o safbwynt technegol.
"Byddaf yn annog y Cyngor Llawn i gefnogi cais i'r Grid Cenedlaethol roi sylw manwl i gyswllt a fydd yn gyfan gwbl dan y ddaear rhwng Wylfa a'r is-orsaf ym Mhentir, Gwynedd. Os na fydd y Grid Cenedlaethol yn fodlon gwneud yr ymrwymiad yma ar ran pobl Ynys Môn, yna bydd angen eglurhad manwl."
National Grid
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran National Grid: "Mae adborth pobl yn bwysig i ni, ac fe ddaeth cannoedd o drigolion i'r 16 digwyddiad yr ydym wedi ei gynnal ar hyd Ynys Môn a Gwynedd dros y pedair wythnos diwethaf i ddarganfod mwy a siarad gyda'n tîm.
"Mae'n rhaid i'n cysylltiad o orsaf bwer Wylfa Newydd gyrraedd cydbwysedd anodd rhwng ystod eang o ystyriaethau pwysig. Rydym wedi gweithio'n galed i gynnig opsiynau llwybrau ar gyfer ceblau dros y tir fydd yn lleihau'r effaith ar bobl a'r amgylchedd, ac rydym wedi ymrwymo i gyflenwi ceblau tanddaearol ar draws y Fenai.
'Dyletswydd'
"Yr un pryd roedd yn rhaid i ni sicrhau fod yr hyn yr oedden ni'n ei gynnig yn gweithio ac yn ddiogel. Mae dyletswydd arnom ni hefyd i gadw costau biliau am ddefnydd ynni mor isel â phosib i ddefnyddwyr.
"Fe hoffem weld pobl yn cymryd rhan a helpu i ddatblygu ein cynlluniau cyn i'n hymgynghoriad ddod i ben ddydd Mercher 16 Rhagfyr.
"Gall pobl roi eu barn ar ein cynnigion am lwybrau, lle byddem yn croesi'r Fenai, a'r llefydd maen nhw'n teimlo sy'n bwysig a'r hyn y dylem ei ystyried a pham. Yna fe fyddwn yn dwyn hyn i ystyriaeth cyn i ni edrych yn union ar ble fydd y cysylltiad newydd yn mynd."