Corff Llanelli: Cyhoeddi enw dyn

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dyn y cafwyd hyd i'w gorff ar draeth yn Llanelli ar 6 Rhagfyr.

Roedd Glenn Alan Payne yn 61 oed ac yn dod o Lanelli.

Daeth aelodau'r cyhoedd o hyd i'w gorff am tua 09:45 ger Doc y Gogledd, tua 300 metr o Lwybr yr Arfordir.

Fe wnaeth Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a physgotwyr lleol helpu'r heddlu i dynnu'r corff o'r dŵr.

Nid yw'r heddlu'n credu fod marwolaeth Mr Payne yn amheus ac mae'r crwner wedi ei hysbysu.